P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael John Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 8,341 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae pecynnau bwyd brys yn cyfrannu’n fawr at broblem sbwriel ar y ffyrdd yn ein cymunedau.

Rydym ni o’r farn y byddai argraffu rhif cofrestru’r cerbyd ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car yn helpu i leihau’r melltith costus hwn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pontypridd

·         Canol De Cymru